Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl HIF. 788. RHAGFYR, 1908. [Cyf. LXVIII. At Fab y PyN. 1. Fe'th elwid gynt yn Fab y Saer Yng Nghalilea draw; A chyn i'r byd ei hoelio hi Bu morthwyl yn Dy law. Ai iawn i Ormes, Fab y Dyn, Yw canu am Dy waed Tra plant y morthwyl yn eu hing Yn marw dan ei draed ? II. Aeth ugain canrjf dros y byd Er gwawr y boreu claer, Y'th anwyd yn y preseb llwm Yn Geidwad, Fab y Saer. Can awen byd i fwth y tlawd, A chelf a dynn ei lun ; Ond, drosot, edy neb ei nef— Fel Ti, ,0, Fab y Dyn ! III. Dan goed Olewydd lawer nos, Gorweddaist, Fab y Nen, A'r cyfoeth roddaist Ti i'r byd Yn chwerthin am Dy ben ! O ! Fab y Werin, p'am y can Goludog fyd Dy fawl, Tra'n mathru'r gweithiwr yn y Hwch, A phoeri ar ei hawl ? IV. Rhoes golud unwaith Di ar groes, A golud roes it' fedd ; Ac yn y fynwent oer y caiff Y gweithiwr eto'i hedd. Yn moli'th loes mae gwerin dlawd O'i chalon, Fab y Dyn— Gan gochi pob dymuniad taer A gwaed o'i loes ei hun. RHYS J. HUWS.