Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y* Çronicl. Rhif. 787. TACHWEDD, 1908. [Cyf. LXVIII. Y FAM A'R PLENTYN. Gan Dr. Pan Jones, Mostyn. Gwrando, fy mhlentyn, d'wedaf ar gan, Mor gu, ac mor gain yw yr engyl glan ; Mil harddach eu gwyneb na'r wybren der der, Yr heulwen, y lleuad, y tlysion ser, Glasach eu Ilygaid na'r asur ei hun ; Blodeuglwm paradwys yw gwallt pob un, Eu hedyn sydd glaerach lawer na'r mellt A wibia'n chwim heibio fy ffenestr ddellt, I fyny, i lawr— Mae'r engyl mewn gwisgoedd tlysach na'r wawr. O, gad i mi dd'wedyd, fy mhlentyn cu, Mor ddistaw yr heda yr engyl fry,— Mor ddistaw a'r od yn disgyn oY nen, Mor ddistaw a chysgod y Ileuad wen, Mor ddistaw a thyfiant egin mis Mai. Mor ddistaw a'r chwaon wedi y trai, Mor ddistaw aY cwmwl aY enfys dlos, Mor ddistaw aY Ilwydrew ar fron y nos, Distaw ond cry, YwY engyl sy'n hedeg o'n hamgylch ni. 0 gad i mi adrodd, fy mhlentyn gwyn, Ychydig o hanes yr engyl hyn, 1 sant mewn tylodi, gwelw ei wawr, Dygant dameidiau oY nefoedd i lawr : Os plentyn y nef mewn cystudd fydd blin Hwy wyliant drosto fel ei fam ei hun ; Lle bynnag bo 'storm yn gwgu'n y nen, A'r Cristion mewn braw yn crymu ei ben, Yno fel tan Y llama'r angylion, fy mhlentyn glan. A garet, fy mab, weld yr engyl hyn ? Eu gweled nis cei tu yma i'r glyn ; Ond os byddi'n blentyn anwyl gan Dduw, Cei angel i'th wylio tra fyddot byw, A phan gauo'th lygaid ar oleu y dydd, AY corff yna'n barod i'w wely pridd, Bryd hynny cei weled yr engyl glan, Arweiniant di drwodd i wlad y gan; Gwlad nefol yw, Ac yno yn angel bychan cei fyw,"