Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 786. HYDREF, 1908. [Cyf. LXVIII ÉÉ Y PPALEN GRIN." Gan Dr. Pan Jones, Mostyn. Pan yn myfyrion un prydnawn Ar gwrs y byd a 1 droion blin, Daeth heibio awel dyner iawn Ac ar fy Hyfr rhoes ddalen grin, Yn y fan mi dd'wedais eriau Dyma wys o Swyddfa angâu. A minnau 'roes y ddalen grin Yn dyner rhwng dwy ddalen wen,— O, mor wahanol oedd ei llun Er pan yn werdd ar gangau'r pren. O, amser dedwydd oedd hi gynt Pan ddawnsiai'r dail wrth donnau'r gwynt. Mor noeth yn awr edrycha'r pren A fu yn dad i'r ddalen hon, A gwylaidd iawn y plyga 'i ben O flaen pob chwa yng nghoed y Fron. Nis adwaen ef y ddalen fechan Dyfodd ar ei gangau 'i hunan. I minnau geiriau'r meirw sydd Fel dyddiol wys o wlad yr hedd, Ar edyn adgof d'ont bob dydd, A dygant arwydd-nod y bedd, A d'wedant wrthyf hwyr a borau Fel y ddalen byddi dithau. O, mawr mor ddedwydd oedd hi gynt Pan oeddwn fel y ddalen werdd Yn chwarae fel y chwythai'r gwynt, Ac yn difyru'r wlad a'm cerdd; Ond heibio aeth y dyddiau Ilawen Crino'r ydwyf fel y ddalen.