Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 785. MEDI, 1908. [Cyf. LXVIII. Y FERCH LWCUS. Gan Dr Pan Jones, Mostyn. /el, O, Nain, dyma ni ein hunain yn awr, Adroddwch ryw stori fach flasus,— lae'r gwynt yna'n rhuo i fynu i lawr,— Iae pawb yn cydwrando, y bychan a'r mawr, Ar Nain yn d'weud " Stori'r Ferch Lwcus." Fe reibiwyd rhyw frenin, jti rhywle, rywbryd, Chwi gofiwch, gan ryw wrach y Rhibyn, reswyliai y brenin mewn castell mawr clyd, r mor a'i cylchynai ar brydiau i gyd,— Gerllaw V oedd pysgotwyr mewn bwthyn." Ymlusgo bu'r brenin rheibiedig yn hir Fel neidr drwy'r Hwch yn ddirmygus, n rhwym mewn aur-gadwen, ond tost oedd ei gur, »s gellid ei wared heb gusan yn wir, A chusan gan rian fach daclus." " 'R oedd merch y pysgotwr yn galon i gyd, A goleu ei phen, medd yr hanes, Ar wared y brenin hi roddes ei bryd,— Cusanodd y neidr a dyna i gyd, Ac yntau a'i gwnaeth yn frenhines." Y droell ail gychwynodd, aeth Nain at ei gwaith, Mae'r eneth fel wedi ymddrysu, Hi blethai ei dwylaw, a'i gruddiau yn Ilaith,— Am enyd anghofiodd ei henw a'i hiaith— Gan edrych fel wedi 'i pharlysu. A dwedodd, " O, Nain, dyna rywbeth onte ? O, Nain, a yw hwn yn wirionedd ? Mi f aswn i 'n caru cael bod yn ei He, Cusanwn y neidr o chwith ac o dde Er'mwyn cael fy nghodi i'r orsedd." Y Nain a atebodd, " Mae miloedd fel hyn Am wneuthur gwrhydri di-ddiwedd, I lawr ac i fynu ar lethri pob bryn, Mae pawb yn garedig, ond yw yn beth syn Ar ol iddynt weled yr orsedd."