Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 782. MEHEFIN, 1908. [Cyf. LXVIII. GWynt y PWy^aiN. Gan DR. PAN JONES. Mor brudd yw'th ruad, Ddwyrain wynt, Gwnest ddrygau fyrdd, mi wranta', Wrth ddyfod atom ar dy hynt O draethau'r Aiíft a Lybia ; Gwnest lawer rhwyg yng ngrudd y Nîl Gan guddio'r wlad a thywod ; Ar ben y Sphinx, drwy oesau 61, Ti roddaist lawer dyrnod. Addurnaist lennydd Creta, do, A gwisgoedd gwynion taclus. A gyrraist longau fyrdd ar ffo Rhag glanio'n mhorthladd Cnidus, A da a fu i lawer un A guraist drwy for Adria, Fel Paul, auafu'n ddigon blin, Ar ynys fach Melita. Ysgubaist dros yr Eidal dlos Gan gludo'r holl gelfyddau, A thros yr Alpau, yn y nos, Ti ddeui atom ninnau ; A gwylio pen y ceiliog gwynt Mae'r mawrion, 'nawr a'r bychain, Gan geisio mesur hyd dy hynt,— Dos ymaith, Wynt y Dwyrain. Fe'th anwyd yn yr anial draw O epil rhyw ellyllon— Mae'th anadl i ni'n fwy o fraw Na rhuad Euroclydon ; O'th flaen paradwys oedd y wlad, Ond heddyw Hawn twmpathau : Ti gwympaist filoedd drwy dy frad, Ac yma gwel eu beddau.