Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 781. MAI, 1908. [Cyf. LXVIII. mWynper mai. Gan Huwco Penmaen. A oes prydydd na fedd awydd Canu clodydd Mwynder Mai, Pan mae'r blodau 'n addurniadau, Ar wisg oreu Natur chwai ? Uwch ein pennau dail goronau Sydd ar igangau prennau'r coed, Y friallen, wylaidd felen, Wena'n llawen wrth ein troed Y mae'r awel fwyn yn chwareu Ar delynau'r goedwig werdd, O bob perth a llwyn daw seáiiiau Peraidd odlau adar cerdd. Cana'r hedydd ar foreuddydd Ganiad newydd uwch y byd, Sua'r gwenyn ar y gwâenydd; " Mwynder Mai " sydd gân i gryd. Mae'r wen-folen yn ei helfen, A'r chwim aden uwch ein pen, Er yn cludo clai i'r bondo, Ceidw eto 'i bron yn wen. Y fwyn gwcw—tynnu 'n sylw Gyda'i chroew ddeunod wna, Nad yw Mwynder Mai ond trothwy Pn at arlwy hirnos ha'. Chwareu'n ddedwydd gyda'u gilydd, Ar y dolydd wna yr ŵyn ; Cana'r plentyn wrth ymofyn Nyth aderyn yn y llwyn O fìodeiiyn i flodeuyn, Heda'r gloyn byw yn chwim, Ennyn llonder, ymlid pryder Ymaith a wna Mwynder Mai. Mun wrth odro sydd yn pyncio Cân o groeso i doriad dydo\ Pan mae dagrau'r nos yn berlau Ar diws fronau'r blodau blydd. Hin dynerach a wna'n llonach Fronau hen ac afiach rai, Balm i'w calon yw'r gobeithion. Ddyg awelon mwynáon Mai Gwisga prennau y perllanau Fentyll blodau prydferth iawn, Addewidion teg am aeroo Yn y tlysion flodau gawn. Nefoedd dirion, hael ei rhoddion, A oes calon ddichon lai Na chlodfori'r Hwn rydd ini Holl ddaioni " Mwynder Mai"?