Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 780. EBRILL, 1908. [Cyf. LXVIII. GOBAITtí. Gan Dr. PAN JONES, Mostyn. Mae Gobaith fel rhyw gyfaill cudd, Mal Uoer y nos a haul y dydd, Meddyglyn rydd i*r cryf a'r gwan,— A'i Iaw fe ddeil y Hesg i'r lan ;— IV fron derfysglyd daw a hedd— Ymgilia 'stormydd rhag ei wedd— Nid ofna ddyn—fel haul ar wlaw— Ar ddagrau gwena yn ddifraw; Ym mynwes ieuenctyd ager yw, Ac yn yr hen mae'n goelcerth fyw, Cysuron fyrdd o Obaith dardd Fel hyn i lonni calon bardd ; Fe geidw *n fyw y dyner ferch Sy n aberth bron ar allor serch : Wrth wichiad dorrau'r carchar blin A thinc cadwynau'r euog ddyn, Fe dery Gobaith yn y fron Ryw nodyn yn y cywair llon, A dyffryn galar dry yn wyn O dan ei wenau yn y glyn, Ac uwch carchardy brenin braw Deil lamp y bywyd yn ei law, A phan yn odaith elo'r byd Fe ddeil ei ieuanc wen o hyd ; Ai plentyn ydyw meddwch chwi A anwyd ar ein daear ni ? A geir ef mewn rhyw le neu Iun Heblaw yng nghiliau mynwes dyn ? Ar lan y bedd fe gryma'i ben A thaena drosto fantell wen, A gwylio uwch ein beddau bydd Nes delo'r adgyfodiad ddydd.