Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y f. Cronicl Rhif. 778. CHWEFROL, 1908. [Cyf. LXVIII. Y GENI. Gan G. K. Chesterton. Yr oedd tô o liw aur ar y bwthyn, Er gwaeled ei welltyn, hen, tlawd, A chân y gwynt oedd feí bloedd udgorn, A rhynai a rhewai bob cnawd, Gwallty fam oedd wyllt ac anrhefnus, Eto'n goron gu; Dan gysgod y gwyll daeth goleuni, Rhoed Mab i ni. Sawl myrddiwn o blant a fywhawyd ? Sawl myrddiwn yn hen sydd yn awr ? 'Rol tyfu'n ddrygionus, cas, chwerw, Eu Üid a'u creulondeb yn fawr ? Mewn amynedd Ofnadwy Duw erys, Heb lid atoch chwi, Ac eto'n Ue'r plentyn wastraffwyd, Rhoed Mab i ni. Beth wyddom am oesau adawyd ? Galluoedd a gollwyd cyn co' ? Teyrnasoedd fel breuddwyd anghofiwyd ? Dinasoedd sy'n isder y gro ? Hýn wyddom-r-drwy wae a thrwy wynfyd,- Trwy wên a thrwy gri— 'Roedd cariad yng nghanol ei gorsedd, Rhoed Mab i ni. Daeth llefau a thrwst o'r tywyllwch,„ Damcanion yr Ie, a'r Na, Bu eto fron cariad i'n cuddio, A throsom adenydd y Da ; Uchelwyr, offeiriaid, nis gwelsoch— Cywiiydd i chwi! Llysg goleu y wawr draw o'n blaenau, Rhoed Mab i ni. Hen drawstiau cryf Uafur oreurir, A gwawr seren calon o hyd, A'r doethion ddynesant drwy'r cyfnos Y» flin gan ddysgeidiaeth y byd, A gwyneb y teyrn a dywyllir, Gan ddolur a chri, Can's Brenin rhagorach orseddwyd, Rhoed Mab i ni. Sibrydion y dirgel ddeffroad, I galon y fam ddaw yn awr, Prawf eto holl fawredd y foment, D eth Gabriel â'r newydd i lawr, Can's Arglwydd y byd ydyw'r baban,— Cân engyl ei fri— Emanuel, proffwyd, eneiniog, " Rhoed Mab i ni." Tydi sydd o hyd yn djr çawell,— Yr heulwen yn goron ít' sy*— D'wed wrthym, ein cnawd, dywed wrthym, B'le daethost, a phwy ydwyt ti ? Ddychwelaist i'r ddaear ì'n dysgu ? Rhybuddio 'rwyt ti ? Ust i Sut gallwn wybod nas gwyddom? RhoedMabini. ŵ/.)«