Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL,^ Rhif 775 a 376.] Tachwedd a Rhagfyr, 1907. [Cyf. LXVII. Y Dynion Doeth (Gan G. K. Chesterton.) 1. Yn ddistaw cerdd, dan eira, a g'law, Gwel, lle gall dyn weddio'n iawn, Gan fod y ffordd mor hawdd i'w chael, Fe all mai 'i methu wnawn. 2. Dysgasom chwilio'n foreu iawn, Nes gwneud y tywyll oll yn glir, Esbonio pethau dyrus wnawn, Ni, yw'r Tri Doethwyr gynt, mor llawn ! A gwyddom bopeth ond y gwir. Gwisg duwiau trais yn ngorchudd cun, Athroniaeth, gweledigaeth nef; Y Sarph a ddygodd wae ar ddyn, A frath ei gynffon fall ei hun, A Thragwyddoldeb yw medd ef. Yn isel dos . . . bu'n bwrw'n drwm . . . A llusern gŷn yn ddistaw iawn, Mor hawdd yw'r ffordd, nes hwyrach, mai O honi crwydro wnawn. Fe amgylchynwn fôr a thîr. A cholli'r pren wnawn yn y coed, Ar ddrygau rhoddwn enwau hir, I dduwiau gau addoliad gwir, A galwn ddrwg y goreu 'rioed. 6. Mae'r byd i ni'n frawychus wyn, A'n dallu oll wna toriad dydd, Fe gerddwn yn y goleu'n syn Rhyw-beth sydd fwy na'r llygaid hyn Rhy hawdd i'w draethu rhyw-beth sydd. 7. Y Plentyn oedd cyn bod pob byd ( . . . Ni raid i'n fyn'd ond encyd fach Nes gwel'd drwy gil y drws, y cryd A'r Un â'r haul fu'n chwareu cyd A gwair yn chwareu'n iach. 8. Y tŷ, a bortha'r Nef o'i ddawn Yr hen dŷ od lle 'rym yn byw, Lle caiff pob gair ei feddwl Ilawn, A'i Gariad fel bara'n syml iawn, A'i Barch mor iach a chareg yw. 9. Yn isel dos: iseled Nef! Ac isel, mawr, yw'r Seren glir, Mor agos yw y Preseb mwy Ni raid in' deithio'n hir. 10. Clyw! Chwerthin, fel y llew a ddaw, I ruo drwy'r anialwch gwyw, Y Nefoedd waedda, gryn, mewn braw, Drachefn yn wir fe enir Duw, A dyn, rhyw blentyn ar ei daith Drwy'r g'law a'r eira yw. {Cyf. K.)