Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-S.Y CRONICL,^ Rhif 774.] HYDREF, 1907. [Cyf. LXVII. ▼Ä ^srsr WATCYN WYN. GAN FENAR. Rhowch imi tangre'n min y " Llyn " - I wylo deigryn galar Ar ol fy nghyfaill Watcyn Wyn, A aeth i'r glyn mor gynnar. Mae glannau Aman fyth yn brudd, A'i dolydd yn mud wylo, Am na ddoi'r Bardd ar hwyrol hynt Fel deuai gynt i'w rhodio. Mae'r Orsedd hefyd heb ei gwen, Mae'n hen cyn pen y flwyddyn O'r dydd y cyrchem ni yn llu I gladdu Bardd y Gwynfryn. Mae wit y flwyddyn wedi myn'd, Mae'r pennill wedi peidio, A gwelaf wyneb llawer rfrynd Yn dweyd mai 11 wm yw hebddo. Mae'r Delyn wedi colli car, A'i thannau'n alar gwelw, Mae hanner arall " Eos Dar" Yn Watcyn wedi marw. Ond byw, ie, b^^w yw Watcyn Wyn, A'r delyn ni raid wylo, Mae'n aros yn Eos ar y Bryn, A thelyn arall ganddo. * * wmwt ^^»v;&:*ff:^^