Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-S.Y CRONICL.^. Rhif 771.] GORPHENAF, 1907. [Cyf. LXVII. '■:■: îí;ŵ: ":-Ŵ LLANUWCHLLYN. GAN AP WCHAN. 1. Yn Uwchllyn mae'r glyn glanaf—yn mro wen Meirionydd hawddgaraf; Penantlliw bach yw'r iachaf, O'r cymoedd dan nefoedd Naf. 2. Bro anwyl doldir a bryniau—a cheir Ei choed yn heirdd lwynau ; Para'n hir wnant heb brinhau, A chuddiant ei llechweddau. 3. Hi a noddir gan fynyddau—iachus Uchel y w ei chreigiau ; A'i gwyn neint lifynt gan wau, Llithrynt ar draws ei llethrau. 4. Tua'r llyn, trwy'r tir, y Lliw—ogylch dry Golcha draed Penantlliw ; I lawr rhed, dros lawer rhiw A'i hymroliad amryliw. 5. Ei dyfodiad sydd o'r Dafeidiog—garw, Ac o Erwent niwliog ; Dros ddanedd creig mawreddog, A llawn grym, mae fel Ilèn grôg. 6. O aeliau y cwm, wele, cant—o bur Aberoedd a frysiant; A mwy eu pwys, am y pant Afonydd ymofynant. 7. Un a ddawo Waen y Dduallt—a'r lleill I'r Lliw sy'n ymdywallt; Berwa hon heibio'r Wenallt A'i gerwin ru gryna'r allt. 8. Y rhaiadr crychwyn rhuol—Rhaiadr Mwy Ry dwrw mawr parhaol; Saif ei hir dôn syfrdanol I oesau res sy ar ol.