Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Á*Y CRONICL.A Rhif 769.] MAI, 1907. [Cyf. LXVII. '•.::•.':: VẄ: :/.;•;' Vy*. '•:••• •,••■;■•:•■:: Gwlad Eifionydd. [HWFA.] Wele wlad loew, oludog—yn gwenu Dan gynyrch amrywiog,— Persawron Saron y sydd O'i ffrith lenydd ffrwythlonog. Yr aderyn Chwery emyn Ar ei delyn drwy y dolydd,— A thrwy urdd pletha'r wawrddydd—a'i byd gwyn Emau haul am aeliau'i moelydd. Hyd ei chreigiau Dawns tymestlau O'r oer dyrau, Ar ru'r daran: Wrth eu godrau Chwardd y blodau, Hoff rosynau Effros anian. Gwelwch dylawg aelydd—yr awelog Froydd fu enwog i Feirdd Eifionydd. O fronau'r brýniau heb rif Rhed aberlawn rad barlif. Hyd auau o'r dyfnderau—i'r prydydd Hoff win awenydd dardd o'r ffynonau. Gwel frig haul fron Had ehedion— Cain dyrau meinciau'n dewrion—presw)dfod Hael hen iawn aerod o hil Nanhoron. Yn min môr Gaerawg oror Gwel eto grog, frigog fryn—Brythonwyr Taleithau mydrwyr tylwythau Madryn. Gwlad yr englyn, Gwlad y delyn, Gwlad y diliau : Gwlad perorydd, Gwlad ar gynydd, Gwlad organau. Gwlad y banau, gwlad y bonedd—trwy'r byd Tonau Moryd sy'n taenu ei mawredd.