Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

_J^Y CRONICL,^. Rhif 766.] CHWEFROR, 1907. [Cyf. LXVII. ■':r'.:' "f',.•'. :?.".->'"-. ABERTH YN GWYNÜ'R ABERTHWR. 1. 'Roedd unwaith wningen o liw eiralgwyn, A'i ffryndiau bach llwydion synent at hyn, Hithau o faîchder ddywedodd, " Ha! Ha! "Yr ydwyf yn wỳn, am 'mod i mor dda." 2. " Pa beth a wnawn," medde twrch ar y rhos, " Ca'dd un o'r Tylwyth Teg gwymp cas i ffos; " Mae'n llawn o ddwr, ac ymiusgiaid byw, "Ac nis gall godi hefo'i hedyn briw." 3. " Mi wnes fy ngore' i'w hachub o'i gwae, " Ond byr yw fy mraich, ac yno y mae ; "O! wningen wen fwyn, rho help dy fraich dde, " Rho brawf fod tí'n dda—mi wn fod ti'n gre'." 4. " Na flina fi'n awr," medde'r wningen ffroch, "Ei Ilygaid yn nghau, a'i chlustiau yn goch, " Mae 'nghot yn wen, lân, a llaes l^d y llawr, " Os af fi i'r ffos fe'i baeddir yn íawr." 5. " Mae d'igon o ddwr," medde'r twrch yn ddi-daw, 4< Afonydd o hono o'r bryniau a ddaw, " Gwlith y fîurfafen, a gîaw tyner, chweg, " A chusan i'th olchi gan Dylwyth Teg." 6. " Och ! fi, pwy gwyd," medde'r twrch yn ei fraw, " Y mwyn Dylwyth Teg o ganol y baw ? " Cwningen gyffredin a gododd o"i gwâl, D'wedodd, " Gwna'i 'ngore, er mod i'n un sâl." 7. Prin 'roedd ei chynffon i'w gweled o'r dwr, A thybiai mai boddi a wnaethai yn siwr, Ymdrechodd, ymdrechodd yn wanllyd a gwyw, A'r Tylwyth Teg ddygodd'i'r làn yn íyw. 8. Cusanodd y Tylwyth Teg ei gwleb rudd, Ei thraed, a'i bysedd, hyd doriad y dydd ; A phan wenodd yr haul ar ael y bryn, Y' wningen fach Iwyd oedd yn ddisglaer wyn. iCyf.) C. K.