Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jl*Y CRONICL,^ Rhif 764.] RHAGFYR, 1906. [Cyf. LXVI. CYMRU (Allan 0 Awdl " Gwladgarwch." Pa ryw ddiball, aniwall ddwfn awydd, G-ynhyrfa gynes fynwes f'awenydd, Am ymweled â chymau a moelydd Cymru ddirgiodus, gem hardda'r gwledydd, Ac i fwynhau yr olygfa newydd, A ddwg i olwg fy ngwlad aneilydd ? Lliwiwyd y grug ar hyd ei llwyd greigydd, A chodai'n fynych waed yn afonydd Pan oedd ein teidiau, drwy boenau beunj^dd Yn ymroi'n hyfawi—yn marw'n ufudd ; Am eu gwlad, nid am glodydd—y safent A'u bro a garent dan bob rhyw gerydd. 0 Gymru, fy ngwlad ! hen wlad fy nhadau, Man sy mewn hedd yn mynwes mynyddau ; 'Rwy'n teimlo serch at ei hofí lanerchau, A chadr wyneb ei gorwych darianau; Llu o wyr hj^rwydd 0 bell ororaù I'r lle heidiant i dwyllo'u trallodau ; Torf yn hon gânt wir fwynhau—eu haf hynt Trwy deg ireiddwynt, cânt wrid i'w gruddiau; Hyfryd i'm hysbryd mau—yw gwel'd ei mwg A chael i olwg ei huchel aeliau. Emrys.