Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

jl*Y CRONICL.^ Rhif 763.] TACHWEDD, 1906. [Cyf. LXVI. Llwybrau Unig. Mae'r llong wrth hollti tonau'r môr, Yn agor llwybr newydd; A hêd y cymyl drwy y nen Hyd lwybrau anghyfarwydd. Wrth deithio'n mlaen rhaid i bob un Wneyd llwybr newydd iddo 'i hun. Mae'r enaid yn ei daith drwy'r byd, Yn rhodio wrtho 'i hunan; Er maint y dorf sydd ar bob llaw, Mae'n unig wedi'r cyfan! Wrth deithio'n mlaen rhaid i bob un Wneyd llwybr newydd iddo 'i hun. Mae myrdd a'u gwyneb tua'r ddôr— Y ddôr sydd rhwng y ddeufyd; Pob un yn disgwyl am ei dro, (Daw'r tro i tithau hefyd). Ond cul yw'r porth—rhaid i bob un Fyn'd drwyddo'n unig wrtho'i hun. Tuhwnfc i'r ddôr mae goreu Duw, Mae hwnw uwch dirnadaeth; Ond credaf hyn—wna nef y nef Ddim difa personoliaeth. Ar fryniau Duw fe gerdd pob un Hyd lwybrau newydd wrtho 'i hun. Upper Brighton. R. H. JoNBS. 1 I » I l ..... ■ 1 I