Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

-J^Y CRÓ'NICLA Rhif 761.] HEDl, 1906. [Cyf. LjCYÍ Caethlwed Babylon GAN CAPTEN ROBERTS, LLANGYBI. 1. Ar lànau'r hen Euphrates, telynau Seion sydd, Yn rhywle ar yr helyg, a'r plant i gyd yn brudd, Wrth syllu ar yr afon, yn tynu llun y coed, Gan redeg yn ei elfen, lawn rhydded ag erioed. 2. A cofìent afon Cedron, a diadellau'r ddôl, Ond teimlant eu caethiwed, heb obaith d'od yn 61, Dychmygant wel'd Moriah, a Salem deg ei gwedd, A'r Deml fu'n eu meddiant—'does heddyw ond y bedd. 3. Mae Miriam a'i morwynion yn teimlo eu sarhad, Yn Babel mewn caethiwed wrth gofio am eu gwlad, Hen Libanus a Hermon a'r cysegredig Fryn, A theg rosynau Saron—Pa le maent erbyn hyn? 4. A tywysogion Israel a'u harglwyddesau sydd, Wrth lusgo eu cadwynau yn cofio am y dydd Pan iosgwyd eu palasau, a'u gerddi teg eu gwawr, Anrhydedd merched Judah sy'n îs na llwch y llawr. 5. Maent wedi blino'n wylo'n amddifad ar wahan, A rhai o'r Babiloniaid ofynant ganddynt gân, "Owí canu cân yr Arglwydd,"medd merched Seion wiw, " Yn Babel i baganiaid, a dynion wadant Dduw." •6. "Rhag chwareu'r un o'n tonau, Hwyrfferu wneìo'n gwaed, A Uosgi wnawn ein llyfrau, yn lludw tan ein traed, A'r afon elo a'r helyg, lle raae'n telynau ni, Rhag clywed sain eu tanau, yn ddarnau gyda'r lli." J__