Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JS. CRONICL. ,9. Rhif 760/ AWST, 1906. [Cyf. LXIV . . JAC Y DO. . GAN CAPTEN ROBERTS, LLANGYBI. 1. Mae 'deryn yn ein gwlad yn byw, Meddylid.-wrth ei bîg a'i liw, A'i lais yn gwaeddi pan yn gyw, Nad oedd ond brân. ■2. A hoffi. mae e'r Llan yn fwy Na'r ud adeilad yn y plwy', Ae aros yno bydd e'n hwy Na'r Person glân. 3. Wrfch ben y gloch yn llawen bydd, A chyda'r ceiliog gwynt fe drydd, Mae'n meddu llawer mwy 0 ffydd, Na syllu 'i lawr. 4. Mae'r gwr sydd yn degymu'r gwlan A chywion gwyddau Modryb Sian, A'r ddegfed ran o'r gwenith glân, 0 ! orthrwm mawr. 5. Gofynais i'r aderyn du, A oedd e'n talu treth y tv, Ond ysgwyd arnaf wnaeth ei blu, Ar frig y to. ê. G-an ddyweud, " Mi glywais gan fy nhad, Y cawn i dŷ a nythu'n rhad Tra byddo'r Llanau yn y wlad, Do, do, Oh! do."