Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y CRONICL,^ -------:---------"***---— — — Rhif 758.] MEHEFIN, 1906. [Cyf. LXIV NOS SU L "^jT 1 Aeth heibio un eto o ddyddiau yr Iôr, Cysgodion y nos sy'n ymledu, A'r huan yn sibrwd ar fynwes y môr— " Daw'r byd a'i ofalon yforu ; " Ond tra y mae'r dydd cysegredig a'i waith, A'r ddaear a dynion yn cefnu, Y Cristion mewn hyder sy'n marcio ei daith— Un Sabbath yn nes at yr Iesu. 2 Fe deimla ei hunan dan fantell yr hwyr, Fel pe bai rhyw angel serchiadol, Yn taenu ei aden wen drosto yn llwyr, A'i arwain at drothwy'r ysbrydol; Ei holl fyfyrdodau mor gywir sy'n troi Tua'r Wynfa lân, cartref y canu, Ac yntau 0 derfysg y byd wedi ffoi— Un Sabbath yn nes at yr Iesu. 3 Mae adsain caniadau molianus y dydd Mal odlau nefolaidd yn esgyn, A'r Cristion mewn cywair rhwng llawen a Eneinia y cyfan a deigryn ; _phrudd, Ond cofia, bererin, os lleddf gyda'r llon Yw'r ddaear—y llon sydd i f}7ny, Un Sabbath di-derfyn yn hwylus dy fron I nesu'n oesoesoedd at Iesu. Caergybi. MeRSWYN.