Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GRONICL, ,^_ Rhif 756.] EBRILL, 1906. [Cyf. LXIV. 1fr (Wî (gan william herbert.) Doe, 'roedd y ddôl o dan ei gwyn A'r eira oer yn cuddio'r bryn; Machludai'r haul yn goch ei drem, A distaw oedd yr awel lem ; Ond cyn y wawr, daeth gwynt y de, I daenu gorchudd dros bob lle ; Y tew gymylau ddaeth a gwlaw, A diluw mawr a barai fraw ; Y glenydd teg, a'r dyffryn hardd, A thês ar faes yn awr a chwardd; Gyffyrddiad Uaw y Tylwyth Teg, Sy'n deffro Tir y Gogledd chweg ! Nid araf yno daw y gwrid, Gan fyn'd a d'od o hyd o hyd: Ond llama cochni iechyd byw, Yn ffrydiau gwawl i'r gauaf gwyw; A glesni tirf ar garlam ddaw I wisgo'r coedydd ar bob llaw ; Y fronfraith fwrw maes ei gân, A'r giach hed ar edyn glân, Y gwynt chwibana rhwng ei blu', Pan gyfarch ef awelon cry'; A'r grugieir mwy ro'nt groesaw i gyd I wlad ddi-eira, gynhes, glyd. (Aralleiriad gan Reinion.) _______________________ $