Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

^Y GRONIGL.^ Rhif 754.] CHWEFROR, 1906. [Cyf. LXIV. Y LLEW A'R LLWYNOG. Allan o " Damheg-ion Esop," gan Nicander. Cytunodct Llwynog fod yn was i'r Llew A'i ddilyn fyth drwy'r teneu a thrwy'r tew. Gwnai'r ddau dros dro'n fwyneiddlan Ei briodwaith ei hunan : Y Llwynog yn dangos yr helfa, A'r Llew gan roi naid yn ei ddala. Fe dybiai 'r Cadno 'i fod yn ddigon glew I ddal ysglyfaeth, fel y gwnai y Llew. Ryw ddydd, i brofì dewred oedd ei anian, Gofynodd genad i gael hela 'i hunan, " Dos," ebe 'r Llew, " 'rwy'n foddlon i roi cenad; Ond bydd di gall i ochel y canlyniad, A dwg i mi ryw damaid bach Yn swper, os doi adre'n iach." I ffwrdd a Madyn : ond cyn myned nepell Fe welai 'n pori ar y ddôl ddiadell 0 ddefaid bras heb gyffro A'r ẃyn o'u cylch yn campio. Ar un o'r brasaf ŵyn fe ruthrai Madyn, Rhuthrodd y bugail arno yntau 'n sydyn O'i guddfa: * Achubai 'r oenig bach o'i safn, A lladdai yntau 'n farw a llaf'n Ei dwca. 0 ddrws ei ffau edrychai 'r Llew dan wenu, Ar gorffyn ei ryfygus was yn trengu, Ac meddai wrtho 'i hun, dan synfyfyrio, " Pe cadwai pob creadur, Dyn a Chadno, At waith ei swydd ei hunan, heb fusnesu, Na rhuthro i waith y rhai sy'n uwch eu gallu, Fe fyddai llawer diogelach iddynt, Â llwyddai 'n llawer gwell eu byd a'u helynt, Nid Madyn ydyw 'r unig un ga'dd glwyfau, Wrth geisio bod yn Llew, heb raid nac eisiau."