Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ehip 465.] IONAWR, 1882. [Cyf. XL. &nzxt\tion a ^mttsion. GLENDID ADDOLIAD. " Pan elont i babell y cyfarfod, a phan nesâent at yr allor, yr ymolch- ent; fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses."—Exodus xl. 32. Yn gyffredin, y mae pawb yn hoffi glendid—glendid corff, glendid dillad, glendid ty. T mae pawb hefyd yn canmoí ac yn parchu bywyd glân a santaidd. Y mae Duw hefyd yn gofyn hyn, ac ni wna ganiatâu dull gwahanol o fyw. Yr oedd yr offeiriaid Iuddewig i ymolchi, ac felly i fod yn lân pan gyrchent i'r babell a'r deml, a phan nesâent at yr allor i weinyddu. Yr oedd eu bod yn gwneuthur hyn yn addysgiadol i ni, gan ddangos yr angenrheidrwydd am len- did cyn addoli. Y mae pob Cristion bellach yn offeiriad i Dduw. Y mae Cristionogion "i roddi eu cyrff, sef i off- rymu eu personau eu hunain yn aberth byw, santaidd, cy- meradwy gan Dduw; eu rhesymol wasanaeth hwy yw hyny." Pel yr oedd yr hen offeiriad i fod yn lân yn y cysegr cyn gweinyddu yno, felly y mae pob dyn a gydneb- ydd ei hun yn Gris-tion i fod yn lân cyn ymddangos gerbron Duw fel ei addolwr. Yna y gofyniad ydyw, oddiwrth ba bethau y dysgwylir i'r addolwr fod yn lân ? Dysgwylir iddo fod yn lân oddi- wrth fryntni corff. Nid oea genym hawl, ac nid yw yn hardd arnom, nac yn oddefadwy i ni ymddangos gerbron Duw gyda chorff brwnt, mwy na sefyll mewn aflendid yn mhlith gwyr urddasol a boneddigaidd. Yr ydym i fod yn lân oddiwrth halogrtoydd corfforol, megya anniweirdeb, ymláddau, a thafodi. Y dyn a fo yn r ' e 1. .. 1 ■ ■ ' ■ ■ ■ =