Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PEEGETHAU HIEION, CTSGU, A STETHIO. "A rhyw wr ieuanc a'i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr, a syrthiodd mewn trwmgwsg, tra yr oedd Paul yn pregethu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsg, a gwympodd o'r drydedd lofft, ac a gyfod- wyd yn farw."—Act. xx, 9. Aefeeent addoli yn y drydedd lofft. Tr oedd y ffeneBtri yn cyrhaedd y llawr, ac nid oedd gwydr arnynt. Yr oedd- ynt yn debycach i ddrysau. Edrychwn yn I. Ae beegethau hieion. Ceir hwy gan yr un rìiai. Gellid esgusodi Paul y waith hon. Ar daith genhadol yr oedd yn Troas. Amcanai ymadael dranoeth. Ni ddysgwyliai gyfarfod a'r cyfeillion oedd ger ei fron mwy ; ac yr oedd ganddo lawer o bethau y dymunai i'w wrandawyr eu cario adref i'w dweyd wrth yr eglwysi. Ond yn gyffredin, yr un rhai yn mhob enwad ydynt y pregethwyr hirion. Ẃrth wrando arnynt yn araf ddarllen eu testynau, y mae y rhai sydd yn eu hadnabod yn dystaw ocheneidio, yn gwneud gobenydd o'u breichiau, ac yn sibrwd wrthynt eu hunain, "Dyma lle y byddwn ni!" Tr arweiniad i mewn sydd yn myned yn faith. Gwelsom yr un ffrwyn yn cael ei rhoddi yn mhen llawer o'r pregethau hirion, ond bod yr awenau yn ymestyn wrth eu tynu. T mae y gwrandawyr craffa yn medru yr arweiniad i mewn. Ac y mae pregethwyr fel gweddiwyr hirion yn myned dros vr un pethau lawer gwaith. Llusgir darnau o'r naill bregeth i'r llall, fel na fedrai y llefarwyr eu hunain na neb