Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif. 306.] HYDREF, 1868. [Cyf. XXVI. Enraijton a î^aneöion. YMDDYDDAN AM GARCHARIAD A RHYDDHAD FEDR. Act. xii. 1—7. [Üarllener yr hanes, a sylwer yn fanwl; ac os bydd rhywun yn barnu ein bod yn cymeryd gormod o ryddid yn ein sylwadan. diolchem am gael gwybod.—J. R.] Herodias. Da iawn, Herod, fy mrawd. Gwelaf ày fod yn dal yn elyn i'r Eglwys Gristionogol yna, a dy fod yn awr yn "estyn dy ddwylaw i ddrygu rhai" o lionynt. Herod. Ydwyf, y nrae yn gas genyf am danynt; ac yr wyf o'r un deimladau tuag atynt ag oedd Herod Fawr, fy nhaid, pan laddodd blant Bethlehem, er mwyn bod yn sicr o ladd eu blaenor; neu Herod Antipas, dy briod di, a fy rhagflaenydd innau, yr hwn, mewn gwawd, a'i gwisg- odd ef mewn gwisg glaerwen, ac a'i hanfonodd ef drachefn at Pilat. Yr wyf wedi dirwyo rhai o'r Eglwys yna, a charcharu rhai, alltudio eraill; ac yr wyf newydd dí»ri pen Iago, brawd Ioan, â'r cleddyf. Yr oedd efe yn cael ei alw Boanerges, mab y daran, ac yn lled ddoniol i amddiöyn ei egwyddorion. Ni wyddwn i am íi'ordd well i gau ei safn ef na thori ei ben. Herodias. Da iawn, fy mrawd. Yn wir, yr wyf innau am dòri eu ponau hwy. Gwyddost mai myfi ddysgodd i fy merch ofyn i dy ragflaenydd am ben Ioan Fedyddiwr mewn dysgl. Da genyf ddeall dy fod dithau yn gwneud dy hun mor ddefnyddiol fel erlidiwr. Y mae yr arch- offeiriaid, a blaenoriaid y deml, a'r Iuddewon yn dy gan- mol yn anghy^ ín.