Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRtẂTCL. Rhif. 301.] MAI, 1868. [Cyp. XXVI. flLnmỳion a îganeaton. CYFLWYNIAD TYSTEB S. R. Cyflwynwyd y dysteb i S. R nos Fawrth, Mawrth 24, mewh cyfarfod cyhoeddus yn Hope Hall, Liverpool. Caledfryn yn y gadair. Cafwyd tea party yn y prydnawn. Am hanner awr wedi saith, gwnaeth gwron y cyfarfod, yn nghyda'r cadeirydd, aelodau y pwyllgor, Mynyddog, a nifer o gyfeillion S. R., eu hynmddaiigosiad, a derbyniwyd hwy gyda churo dwylaw anferthol. Galwodd y cadeirydd ar y cor—y Cambrian Choral Society—dan arweiniad Mr. Parry, i roddi tôn. Wedi hyny cododd y cadeirydd, yn nghanol cymeradwyaeth uchel y dorf—yr hon, erbyn hyn, a lanwai y neuadd—ac a ddywedodd,— Y mae yn ddigon tebyg fod rhywun yn barod i ofyn paham y daethum i yma, mor bell o Gymru? Yn un peth, am fod S. R. vredi bod yn gyfaill didwyll i mi er's 42 o flynyddoedd, ac ni chef- ais hollt (cracft) ynddo erioed. Am fy mod dan rwymau personol iddo. Yn agos i ugain mlynedd yn ol daeth ef yr holl ffordd o Lanbrynmair, ar gefn ei geffyl bach, i Gaernarfon, i gyfarfod cyflwyniad y dysteb a roddwyd i mi ar fy ymadawiad oddiyno; a buaswn yn llai na dyn, ae na Christion, pe na ddaethwn yma (cy- meradwyaeth). Am ein bod wedi cydlafurio llawer ar bynciau sydd wedi dyfod yn brif bynciáu y dydd erbyn hyn. Bydd yn chwith genym weled rhai sydd yn ieuangach na ni, nad ydynt ond prin newydd agor eu llygaid ar egwyddorion, am gymeryd yr holl glod iddynt eu hunain am oleuo y wlad; pan, mewn gwirionedd, yr oeddym ni bron a chadw noswyl, o ran ymdrechu yngyhoeddu?, pan ddeffroisant hwy at eu- gwaith. Yr ydym ni wedí cael yr anrhydedd o sefyll ar y maes dros egwyddorion Ehyddid er's dros