Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y ORONIOL. Rhif. 299.] MAWRTH, 1868. [Cyf. XXVI. Enerdjton a fganesúm. NODIADAU S. R. PAN AR EI DEITHIÀU DIWEDDAR. Y mae yn awr saith mis er pan y glàniais yn fy hen fam- wlad, ac yr wyf wedi bod yn teithio bron bob dydd o hyny hyd heddyw. Cefais y fraint o " ddarlithio" dros gant o weithiau, a'r fraint uwch o bregethu dros gant a hanner o weithiau. Gobeithio, os caf ychydig fisoedd o fywyd, y caf gyfle cyn hir i ymweled â'r cynnulleidfaoedd ydynt wedi anfon cais am hyny. Yr ydwyf dan rwymau pwys- fawr i fod yn ddiolchgar am yr iechyd a gefais drwy saith mis o deithiau ac o gyfarfodydd yn Nghymru, ac bron dri mis o deithiau ac o oedfaon cyn hyny yn yr Unol Daleith- iau. Un o'r pethau mwyaf tarawiadol i mi, wrth ymdeithio, ydyw sylwi ar y gwelliantau o bob math ydynt wedi cymeryd lle yn ystod y deng mlynedd diweddaf, megys adeiladiad colegau ardderchog gan wahanol-enwadau; ac y mae cysegroedd helaeth, heirdd, yn addurno pob pentref yn Nghymru. Nid wyf yn sicr na ddarfu i sel enwadol fỳnu codi capel eang mewn ambell ardal lle nàd oedd cymaint o'i eisieu. Lle y bydd rhyw enwstcUwedi ípael meddiant go lwyr o ry w faes go fychan, dichon na