Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T CRONICL. Rhif195. GORPHENAF, 1859. Cyf. XVII. &netcf)ton a J^ancston. # ___ CYNNAL Y WEINIDOGAETH. Y dylai y gweinidogwn gaeleu cynnal—pwy sydd i wneud—a pha fodd—ydynt fy ngosodiadau. Pwy sydd i gynnal y gweinidogion? Pwy! Yr eglwysi, ac nid neb arall. Gofynai yr apostís/i wrth ymresymu ar y pwnc, "Pwy sydd un amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? pwy sydd yn planu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o'i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd?" Y meddwl yn fyr yw hyn, fod yn rhesymol i'r un sydd yn rhyfela, yn planu gwinllan, yn porthi praidd, gael ei gynnal gan y rhai y llafuria iddynt. " Na chau safn yr ŷch sydd yn dyrnn," ebai Moses; ac " ordeiniodd yr Arglẅydd, i'r rhai sydd yn pregethu yr efengyl, fyw wrth yr efengyl." Nid bod iddynt hanner byw yw ordinhad yr Arglwydd; na, " bod i'r rhai sydd yn píegethu yr efengyl,/yw wrth yr efengyl." Nid un i gadw ysgol, a'r llall i gacfw maeldy, a'r Ilall i gadw fferm; eraill i godlglo, mwn, a haiarn; na, na, "bywwrthyr efèngyl." Wel, os dyna fel yr orde&iodd yr Arglwydd, pa Io y ínaé y bai na byddai felly ? 'ie, dyna y dirgelwch sydd eisieu ei gael allan, a thyna " y gwarth " 6ydd eisieu ei symud. Dy- wedodd " Mynyddwr " mai ar yr eglẁysi a'r diaconiaid mae y bai, beiddiais innau ddywedyd nad ê, a'm gorchwyl yn bres- enol yẃ ceisio profi hyn.