Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEONICL. Rhif 191. MAWRTH, 1859. Cyf. XVII. OMamt. GAIR AM Y MEIRW Yn Llundain. Elen Hughes, geneth Williani a Sames Hughes, a anwyd yn Llangaffo, Mon, Awst 15, 1852; ac a fu farw yn Llundain, Awst 11, 1858, yu chwe mlwyddoed o fewn tridiau. Claddwyd hi yn Willesden Lane, Iíilbum, Awst 14. Nid oedd ein hanwyl Elen yn nn gref; ond yr oedd yn hen o'i hoed, ac yn hynod grefyddol ac anwyl. Clywsom lawer gwaith fod y pethau hyn yn rhagarwyddion dadfeiliad y babeil bridd, a, mynediad yr enaid at Iesu Grist. Ac yr ydym yn rhwym o gredu hyn bellach. Yr oedd yn llawen iawn gan Elen gly wed» fod Mr. Lloyd, un o genadon ein dinas, yn myned i bregethu Cymraeg yn agos i'n tŷ; a chafodd hi y fraint o fod yn y gyf- eillach grefyddol gyntaf a gynnaliwyd yn Gymraeg yn y llofft lle y pregethir yn Paddington. A dyma ei hadnod, "Panyw fy nhad a fy mam yn íy ngwrthod, yr Arglwydd a'm derbyn." Tr oedd yn synu ac yn dwys alaru am fod pobl Llundain yn prynu ac yn gwerthu ar ddydd Puw, ac nid aethai ar un cyf- rif i bryna dim at y rhai hyny ddiwrnodau eraill. Ni fynai na phrofi na gwisgo dim wedi bod yn agos i'w •ìasnachdai. A chredwn y byddai cynllun Elen yn fwy effeithiol i ddwyu annnwiolion ein trefydd mawrion i beidio masnachu ar y Sul, na dim fedr ein seneddwyr wneud. Yr oedd rhyw anhwyídeb ar ei throed; a chan y deallem nad oes un man yn Llundaiu lle