Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhìf.267.] GORPHENAF, 1865. [Cyf. XXIII. ^nçcction a îöancston. PWY SYDD YN CARU GYNTAF? Gofyn y gofyniad uchod yw dechreu a diwedd ymres- ymiad ambell dduwinydd. Wedi ei ofyn, gellid meddwl ar ffurf eu gwefusau a'u hwynebau eu bod wedi pender- fynu holl ddadleuon yr oesau, a gwneud pawb yn fudion. Atebwn y gofyniad ar sail y Beibl, a dywcdwn—Y mae Crist wedi caru yn gyntaf, ac y mae y pechadur i garu yn gyntaf. " Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo efyn gyntaf ein caru ni" ebai Ioan mewn un man. "Ŷr hrcn sydd yn fy ngharu i, a gerir genyffi" ebai Ioan mewn man arall. Dywed yr adnod flaenaf mai Crist sydd yn caru yn gyntaf, a'r pechadur yn caru mewn canlyniad; a dywed yr olaf mai y pecbadur sydd yn caru yn gyntaf, a Clirist yn caru mewn canlyniad. Am gariad, nis medrem appelio at awdurdod uwch nng Ioan, canys yr oedd efe yn garwr ei hunan; ac y mae wedi astudio ac ysgrifenu mwy ar y pwnc na neb arall. Os yw efe yn croes-ddweyd ar fater mor bwysig, ni waeth i ni gladdu ein Beiblau. Ond ni wna Ioan liyn; y mae gwirioneddau pwysig a phrydferth yn y ddwy adnod. Gwirioneddau, pe meddyliasid am danynt yn iawn, yn lle eu cymysgu, gan dduwinyddiou, a ragflaenasent lawer o ddadleuon yr Eglwys. Edrych- wn yn— I. Ar Gariad Ciîist cyn i'r Pechadur oaru. Y mae yn gariad tragwyddol. Dywed Duw hyny am dano—"A chariad tragwyddol i'th gerais." Y peth