Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif. 259.] TACH., 1864. [Cyf. XXII. SneriDton a Pîaneston. ESTHER. Ymddyddan iv.—Pen. vi. a vii. Ahas. Maddeued Haman am i mi ei gadw morhir i ddysgwyl. Hatnan. Sicr iawn, O! ardderchog lywydd. Ymaedywat yn gwybod fod galwadau y brenin yn lluosog, a'i amser ya brin. Nid yw tri mis i mi aros yma i gyfrif fy mysedá ddim cymaint ag a fuasai un awr i'w fawrhjdi. Ahas. Gallwn hebgor yn awr foesgyfarchiadau gwenieith- gar Haman. Y mae nn o weision y palas wedi gwneud cymwynasau pwysig i mi, ac nid wyf yn meddwl ei fod wedi cael ei gydnabod yn ol ei deilyngdod. Da genyf gael ym- gynghori â'm prifweinidog ar y mater. Ac yn awr, yr wyf y» gofyn iddo beth a wneir i'r gwr y mae y brenin yn ewyllysio ei anrhydeddu. Cymered Ilaman hamdden i ystyried, ac yn* bydded i mi gael ei atebiad. Haman. (Wrtho ei hun). Nid gelyn i mi tybed mae y brenin yn ewyllysio anrhydeddu! Na, na; ac etto, ymddengy» ei fod yn fwy syehlyd nag arferol. Rhaid mai rhyw hyfdra cyfeillgar a barodd iddo awgrymu fy mod yn " wenieitbgar." Nid oes neb a wnaeth fwy o wasanaeth i'r brenin na myfi. I bwy, gan hyny, yr ewyllysiai wneuthur anrhydedd yp fwy nag i mi? Am hyny, mentraf ddweyd wrtho yr anrhydedd uchaf a ddymunai fy nghalon gael iddi ei hun. Ahas. A y w fy mhrifweinidog yn barod i roddî cyfarwyddyd i mi am y peth gorcuTw wneud i'r gwr y mae y brenin yn «wyllysio ei anrhydeddu?