Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL. Rhif. 291.] GORPHENAF, 1867. [Cyp. XXV. &nercf)ton a 3$anesícin. ETHOLEDIGAETH. Y mae genyf bregeth fèr ar y pwnc i ymddangos yn y rhifyn nesaf. Nid wyf yn sicr pa un ai etholedigaeth Calfín, ai etholedigaeth Armin ydyw. Nid am yr un o'r ddwy y bum yn ymofyn; ond am etholedigaeth y Beibl. Nid oes bosibl na oddefir bellach i'r Cronicl ddweyd ychydig eiriau ar y pwnc. Y mae y Galfiniaeth gymedrol ddiweddar wedi cael llonydd i siarad er's blynyddau mewn llaWer dull, heb neb yn cymeryd arno gymaint a'i hammheu. Ysgrifenodd y Parch. R. Thomas lyfryn ami, a chafwyd rhagdraeth iddo gan y Proffeswr Morris. Cyfieithwyd u- Edwards ar yr Ewyllys" a gwnaed rhag- draeth i hwnw gan y Parch. R. Thomas, er ceisio ei chyunal. Ail gyhoeddwyd " Y Cawg Aur," er ei mwyn; a chafwyd rhagdraeth i hwnw hefyd gan y Parch. R. Thomas. Ail gyhoeddwyd yn y Dysgedydd bregeth y diweddar Jones, Ruthin. Y mae efe yn hòno yn amlwg geisio dal i fyny etholedigaeth ddiweddar a chynnar, cymedrol ac anghymedrol. Cyfieithwyd "Gwirionedd a Chyfeüiornad" Dr. B., a dyfynwyd i'r Dysgedydd yr hyn a ystyrid y cryfaf o'i resymau. Ond yn wir, pe yn lle golygwyr neu ohebwyr y Dysgedydd, ni chymerwn drati'erth i ddyfynu cyfieithiadau fel hyn; canys medrai yr ieuangaf o honynt, cyn gorphen deífro, wneud gwell rhesymaU na'r unaddyfynwydo "GwirioneddaChyýeilẁrn- ad." Y mae rhesymau (?) y llyfr hwnw, o'i air cyntaf hyd nes yw yn y diwedd, yn ceisio amddifiyn ymddygiad