Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEONICL. Rhif 115. TACHWEDD, 1852. Cyf. X. Enmfjton a ^anemon. YR ARDDANGOSIAD MAWR. Mr. Gol.—Pe buasai Awdwi dammeg y deng morwyn, dammeg y winllan, dammeg yr hauwr, a dammeg y tý ar y graig—pe buasai y Dyn na lefarotfd neb erioed fel efe, yn pregethu yu awr, yr wyf yn sier na adawsai i Arddangosiad 1851 fyned heibio lieb wueud rhyw ddefnydd o hono. Gan hyny, esgusoder yr Hogyu am gyfeirio ato, er ei bod yn llawn blwyddyu wedi'r amser. Cyhoeddir y sylwadau canlynol ar gais Mrs. G. ac eraill o wragedd crefyddol Meiriou. " Pan ddel efe i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu yn y dydd hwnw."—Padl. "Y dydd bwnw" yw y farn. Dangoswn pa beth yw rhyfeddod—Bod creadur rhesymol am weled rhyfeddodao— Bod Crist yn gwneud rhyfeddodau—Mai y "dydd hwnw" yr arddangosir rhyfeddodau yr iachawdwriaeth—Ac mai Crist a'r credadyu fydd y pethau rhyfeddaf yno. I. Pa beth yw rhyfeddod? Unrhyw beth anghyffredin. Y mae adar Prydain yn rhyfeddod yn Affrica, ac adar Affrica yn rhyfeddod yn Mrydain. Y mae meirch Lloegr yn rhyfeddod yn yr India, ac Elephantiaid yr India yn rhyfeddod yma. Nid yw preswylwyr y brifddinas yn sylwi ar St. Paul's, ond synent at yr Wyddfa; ac nid yw trigolion Llanberis yn sylwi ar y Wyddfa, ond synent at St. Paul's. Ystyrir trwst taranau yn rhyfeddach na thrwst gwynt am ei fod yn fwy anghyffredin. Mae mellt yn fwy rhyfeddod na ser am y gwelir hwy yn fwy auaml. Y mae bwrw iâ fel tameidiau yn rbyfeddach na gwlitho am ei fod yn beth mwy angbyffredin. Nid oes diffyg ar yr baul bob dydd, ac am byny rbyfeddir ato. Pe