Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CRONICL, Rhif 215. MAWRTH, 1861. Cyf. XIX. (Eoûatnt MRS. SARAH DAYIES. Dysg y Bibl i ni mai "coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendig- edig." Yt oedd nodwedd gwrthddrych y nodiadau dilynol yn profi ei bod yn un o'r cyfiawnion. Merch ydoedd i William a Rachel Groombridge, Cilcenin. Sais oedd ei thad, genedigol o Rochester, Kent. Hanai o deulu cyfoethog, a chafodd yntan gryn gyfoeth ar ol rhai o honynt; ond drwy ryw anffodion, collodd y cwbl. Teimlodd argraffiadau am ei gyflwr, ac ymun- odd â chrefydd pan yn 20 oed. Ond nid cynt y gwnaeth hyny nag y dechrenodd rhai o'i berthynasau ei erlid a'i wawdio, gan ei alw yn hen Fethodist, a'i gymhell i ddyfod i hela, acymddi- fyru ar ddydd Duw. Tebyg yw ddarfod i'w ymneillduaeth a'i grefydd achosi i'w berthynasau oeri tuag ato, a'i ddifreintio o lawer o gyfocth; er hyny, ymlynodd yn ffyddlawn gyda'r ymneiHdawyr hyd ei fedd. Fel Moses, dewisodd "oddef adfyd gyda phobl Dduw," yn hytrach na chael " mwyniant pechod dros amser." Wedi bod mewn masnach eang yn tlundain ac America, a rhedeg i dlodi, daeth i Gymru; yma priododd, ac ymsefydlas- ant yn Cilcenin. Yno masnachent mewn marine store. Frof- odd yr hen vvr gryn anfanteision crefyddol yma, am nad oedd yn deall ein hiaith. Ond cychwynwyd achos Seisnig gan yr Annibynwyr yn Aberteifi ryw 18 mlyneddyn ol, a rhyfedd fu ei frwdfrydedd o blaid hwn. Byddai ef yno bob Sabbath o saith y bore hyd ddiwedd yr oedfa hwyrol. Llafuriai fel athraw ffyddlon yn yr Ysgoì Sul, ac yn achlysurol fel preg- ethwr. Yr oedd ganddo filldiroedd lawer i'w teithio, ond gwnelai hyn bob Sabbath hyd nes ydoedd yn 82 oed! Wedi cyrhaedd yr oedran yma, methodd, a bu yn dihoeni mewn