Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CROUICL. Rhif 214. CHWEFROR, 1861. Cyp. XIX. (üoftatnt. F Y M A M. Medi, 1860, bu farw fy mam! íe, bufarwfyanwylfam! Y mae y galon fu yn curo o gariad ataf a gofal am danaf am 23 mlyncdd yn y bedd! Y mae yr hon a'm cofleidiai pan yn blent- yn, ac a ddodai ei braich o dan fy mhen, gan ei loddi i orphwys wrth wraidd ei chalorj, yn y ddaear! Yn wyneb profedigaethau a'm cyfarfyddai, awn at fy mam, a chawn gydymdeimlad oi chalon; ond er gwibio yn awr i'r manau yr arferai eullenwi, nid yw fy mam yno! " Gwag yw pob man ond y bcdd!" Y mae wedi myned o'i hen gynnefin i orphwys i'r pentwr; ac O! mor fynych y cwyd fy ocheneidiau llwythog, ac yn dilyn pob un, "0/ mam anwyl!" Y bedd y w ei chartref; ac erbyn troi tung yno, bydd dwy elfen o'tn mewn—un am fy nghaethiwo wrth ochr ei bedd byth, a'r lla.ll, gan mor dost yw aro8 uwch y fan, a'm tywys i ffordd gan gyfeirio fy ngolwg ar y "llawer iawn gwell ydy w " yn nef y nef, uwchlaw gofidiau, tristwch a galar wëdi ffoi ymaith, ac wedi goddiweddyd y •' llawenydd tragwyddol!" Cymylog iawn íu oes fy anwyl fam, oddigerth ambell belydryn yn awr ac yn y man, a lewyrcbai oddirhwng eu hamrantau; gwelodd" aml a blin gystuddiau." Pan yn 15 mlwydd oed, collodd ëi marn, a gadawyd i'w goíal bedwar plontyn bychain i'w magu; gorfu iddi gymeryd gofal y tŷ a'r plant ei hunan, gan fod ei thad ar y pryd yn dilyn ei orchwyl morwrol. Collodd hefyd ddwy chwaer, wedieyrhaedd ocdran gwragcdd: toimlodd alar dwys ar eu hol. Bu ei chaloh hefyd yn gwaedu o herwydd raarw sáith o'i phlant;' %vedi byný bu farw «i ha,nwyl briod (fy nhad), a mynych y dywedaì, "Wel, wel, y mae y dòo fwyaf ^n ol!" O'r diwedd,