Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y CEOFICL, Rhif 203. MAWRTH, 1860. Cyf. XVIII. «îûffamt F Y N H A D. III. Fr Nhad a'i ysgrifell. Er fod fy Nhad yn hoíF o lyfrau, anaml y byddaî yn ei lyfrgell. Treuliai ei ddyddiau yn yr ysgol, a'i nosweithiau yn y cyfeillachau crefyddoi. Yr oedd wyth neu ddeg o'r rhai hyn o fewn cylch ei weinidogaeth, a byddai yntau yn lled aml yn mhob un o honynt. Ei hwyrol fyfyrfa oedd} nt y ffyrdd rhwng ei gartref a'r Bont, Tafolwem, Pandy, Cwm, Aber, Taler'ddig, Carno, Cwmllwyd, Penffriddnewydd, a Beulah; a'i fyfyrfa y dydd oeddynt y llwybrau rhwng y Diosg a'r Hen GapçL Dygai ei bapyrau gydagef mewn cod ledr o'i gynlluniad ei huh., Y mae hòno o dan fy mraich yn bresenol, ac nid oes dim yn peri i mi feddwl yn amlach am yr hen feddiannydd. Medrai fy Nhad ddefnyddio pob math o ysgrifenbin. Edrychai yn siriol os cai un go dda, a gwnai waith glan anghyffredin; ond ni byddai byth yn cwympo allan â'r gwaelaf. Yr oedd ei law- ysgrifen yn ysgafn a merchedaidd. Pe gofynid pa bryS yr oedd yn cael hamdden i roddi ei feddyliau ar bapyr, prin y medrwn ateb. Gwn yr ysgrifenai beth y bore, a cbanol dydd cyn cychwyn i'r ysgol—peth yn yr ysgol, a pheth y nos wedi dyfod adref o'r cyfeillachau. Argreffir can' mwy yn Nghyraru y blynyddoeẁi hyn nag'a wneid o gylch cychwyniad gweinidogaeth fy Nhad, ac y rnae cyfansoddwyr, îe, a chyfansoddwyr medruB, wedi chwanegu yn anarferol. Ysgrifenai ef lawer cyn dyddiau Seren .Gomer na Goleuad Gwynedd. Yr oedd llyíhyrau ar bynciau pwysig