Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 812. RHAGFYR, 1910. [Cyf. LXX. CAN Y SIMNAU. (Gan Bret Harte). Dros y simnau'r noswynt ganai, Nid oedd neb ddeallai'r gân : Rhyw fam druan fagai'i baban ; Cofia'i gwr, a goll'sai weithian, " Cas yw," meddai, yn ei dagrau, " Wynt y nos sydd yn y simnau." Dros y simnau'r noswynt ganai, Nid oedd neb ddeallai'r gân ; Plant a ddwedent, pan y llechent, Át Nos ysbrydion 'nawr a deithiant, Neu y tylwyth.teg sy'n canu, Ofnwn pan bo wedi t'wyllu." Dros y simnau'r noswynt ganai, Nid oedd neb ddeallai'r' gân * Dyn a glywyd ar ei aelwyd, Wrth naws eira'n troi yn broffwyd,—■ " Drud yw'r tân, mawr y cyflogau, Cauaf allan wynt y simnau." Dros y simnau'r noswynt ganai Nid oedd neb ddeallai'r gân : Ond clyw y Bardd, a hwn a chwardd, Hwn yw'r Dyn, Mam, a'r Plentyn hardd, A dywed ef mai Duw y Nef Drwv'r simnau 'hawr a roes Ei lef.