Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl. Rhif. 8ii. TACHWEDD, 1910. [Cyf. LXX. Y PPYNES FACtt (O'r British Week!y). I fyny daeth rhy w ddynes fach, At byrth y neíoedd fawr: Wrth weld yn gwasgu dyrfa gref, Eisteddodd yno i lawr; " Ni fu'm yn ddynes fawr ei bri, 'Rwy'n wan a thlodaidd iawn, A. phe yr awn yn hŷf i fewn Fy rnwrw allan gawn." Eisteddodd wrth y perlog byrth, Gan wylio'r dyrfa'n dod ; 'Roedd yno deyrn o fonedd hen— T'wysogion mawr eu clod : Daeth ati'n sydyn Un a'i ael Yn oleu megys fflam, Ac wrth ei henw galwodd hi Mewn croesaw pur dinam. *' Tyr'd, dos i fewn drwy'r perlog byrth/ Medd ef, " cei wobr wiw, Y gwaith a wnest drwy'th íywyd da Enillodd sylw Duw; A thyr'd i fewn, tra'r erys rhai'n, Dos i'th lawenydd mad, Can's coron aur sy'n d'aros di, A ddyry Duw y Tad." ■ Dan grynnu holai'r ddynes fach— " Ai tybed wir mai fi Ga'r clod ? tra'n aros mae Tuallan wŷr o fri ? Hwynthwy fu'n gwneuthur pethau gwych ; Ni cherfìais ddelw ddrud, Ni phaentiais i un llun, na dim, I dynnu sylw'r byd. "Ni wnes ond cadw'm tŷ yn lân, I'm plant gwnes fara iach, A thrwsio'u dillad—dyna'r oll— Wnes i fel dynes fach: Ni wnes ond canu gyda'r plant, A'u dysgu i fyw'n gytun ; Ni fedrais wneud gwrhydri 'rioed, Nid wyf ond egwan un. " A gweithio bu'm y nos a'r dydd Drwy'r oerni a thrwy'r tês, A'm bysedd blin yn aml iawn Ymdrechu'n galed wnes ; : Rwy'n awr yn hen a'm gwallt yn wyn, Crymedig hefyd wy', Ni cheisiaf fynd i uchel sedd Os caf fi orfíwys mwy." " Tyr'd, tyr'd," llefarai'r Angel cryf, " Meddiana'th nefoedd wen; Ti bia'r gân, a'r pyrth i ü Agorir led y pen, Dy lafur cudd ga'r wobr aur "; Ac Angel Cariad roes I'r ddynes fach, lawn olwg ar Ogoniant Mawr y Groes. (Aralleiriad) REINION.