Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 8io. Y * Çronicl HYDREF, 1910. [Cyf. LXX. Yr EglWys yn y Coep. 'Rwyn coíio diwrnod dedwydd—dedwyddaf yn fy oes ; Yr haul oedd ddisglaer uwch fy mhen, ac nid oedd awel groes ; 'Roedd dagrau fy llawenydd yn disgyn wrth fy nhroed, Tra'n sefyll wrth hen allor yr Eglwys yn y Coed. Yn wylaidd wrth fy ymyl y safai Elen Wyn ; Ni welwyd dau aderyn bach hapusach ar y bryn, Ac ni bu dau ffyddlonach ar aelwyd glyd erioed ; Caed cwlwm serch hyd angau o'r Eglwys yn y Coed. Ond O ! daeth diwrnod arall, ystormus, wedi hyn ; Pan safwn mewn mudandod dwys uwch arch fy Elen Wyn ; Do, do, bu'm i a Gwladus—ein geneth bedair oed, Yn dilyn elor Elen i'r Eglwys yn y Coed. Daeth dagrau fy adgofion yn ffrydlif dros fy ngrudd, Pan glywais gnul yr hen, hen gloch wrth borth y fynwent Fy mhriod, O ! fy mhriod ! Dof atat yn ddioed [brudd ; I ddaear gysegredig Yr Eglwys yn y Coed. Dinorwic. GLAN PADARN