Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Cronicl. cenhadol mor fyw o rìaen ein darllenwyr'. Digwyddodd ryw anhap rhwng Towyri a'r Swyddfa, fel na chawsom ddim ar • "" Efengyleiddiad y Byd " ers dau dro bellach, ac am hynny, gall fy narllenwyr, hwyrach, faddeu i mi ani roi cymaint o le i bwnc y Genhadaeth y mis liwn. Yn fyrr, dyma'm cais. Pwrcased ein Hys- golion Sul, ein llyfrgelloedd, a'n heglwysi y Barthlen Genhadol ardderchog a gy- hoeddodd Undeb Cenhadol y Myfyrwyr. Ceir yn y llyfr doraeth o wybodaeth gen- hadol. Ffaith fawr gwerth ei phwys- leisio yw i roddion yr Eglwys Gristión- ogol gyrraedd y swm anrhydeddus o ddeng miliwn o bunnau (;£io,ooo,ooo) y llynedd, i. Efengyleiddio'r byd. Pa gyfran o'r swm anferth a gasglodd Cymru nis gwvddom, gan na chedwir cyfrifon Cvmru ar wahan yn y Cymdeithasau a gynrychiolir yma. Casgla'r Methodist- iaid dros £16,000, a'r Anibynnwyr /196,315, a daetb dros £11,000 o'r swm olaf o Gymru. Gwirod a'r Gwyddelod. Profodd Mr. Lloyd George, drwy'r Gyllideb, ei fpd yn fwy o gyfaill i sobr- wydd nag ydyw i'r Gwyddel. Dichon hefyd y gall ddangos ei fod yn well cyfaill i'r Gwyddel, drwy fod yn gyfaill i sobr- wydd. Diau mai chwysci yw eilun mawr a gelvn y Gwyddel, ac er fod yr aelodau Gwyddeiig yn chwyrnu am i'r , Cymro gyrfwrdd a'u heilun, eto rhaid iddynt gydnabod fod eu gwlad yn sobrach drwy help Cyllideb Mr, George. Yn wir, mae'r wlad oll wedi gwella yn ei mas- nach y flwyddyn ddiweddaf. Clod i ben goleu a chalon gynnes y Gwron o Gric- cieth.yw liyn. Er nas gall gwleidyddwr lywodraethu llanw a thrai masnach, eto llwydda'r gwledydd lle mae gan y bobl ymddiried yn eu harweinwyr. Mud a phrudd yw'r Doll Ddiffynwyr yng ngwyneb ffigyrau calonog Bwrdd Mas- nach. Mèl ar fara y bobl hyn fyddai swn gwendid yng Nghyllid ein gwlad CM-Wely'r Arglwyddi. Yn ol barn y wlad—a'i farn ef ei hunan —nid yw 'iy'r Arglwyddi yn atebol i'w waith. Pan gŵyd awydd sydyn arno weithiau i wneud tipyn o gymwynas, gwna hynny mor ddilun a hurt nes gwell gan bawb ei weld yn peidio treio gwneud dim. Ceisiwyd gan rai o arweinwyr y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr weini arno iel meddygon, ac eistedd ar ei aclios y maent ar liyn o bryd. P>arna rliai mai ar ei gyfansoddiad y mae'r bai, rhai a dybiant mai dwr, neu rhyw hylif arall sydd ar ei ymenydd, ac y byddai'n well iddo seinio dirwest a gwerthu ei dafarndai, eraill a a íarnant mai ei ymysgaroedd trugarog a breision sy'n culhau oherwydd prinder yn codi o ddifíyg yn y rhenti neu glefyd dieithr a alwant yn " Georgitis," sy'n achos teneurwydd ac iselder ysbryd. Cynnygir gwahanol gyliyriau i'r dyn claf. Barn I)r. Rosebèry yw mai creadur a gormod o aelodau ganddo yw Ty'r Ar- glwyddi, a chynghora gymeryd y farn gyìioedd, a thorri arno er mwyn dod a'i nertli yn ol. Dywed rhai gwerinwyr fod iddo waith i'w wneud, ond fod ei waed, er yn lâs, wedi myned yn rhy deneu, ac y dylid cael gwaed iach barn gwlad i'w wythiennau. Dedfryd Mr. Keir Hardie a Phlaid Llafur yw mai rhoi pen arno gynted gellir fyddai oreu a'i gladdu o dan balmant St. Stephan a'i wyneh. i lawr. KeiNioN. Conwy : Argraffwyd gan R. E. Jones a'i Frodyr.