Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 807. GORFFENNAF, 1910. [Cyf. LXX. llWyp ap iwan. Yng nghanol unigedd Cwmhyfryd, Lle pery y borfa yn îr, Lle chwery y balmaidd awelon, Lle llifa'r aberoedd yn glir O lethrau yr Andes uchelgrib,— Fan honno preswyliai yn llon Gymdogaeth o Gymry heddychol, Heb arswyd yn llethu eu bron. Brawychwyd y llannerch bellenig Gan greulon ynfydion y fall— Gan ladron llofruddiog, bradwrus, A'u bryd ar ddrygioni'n ddi-ball;- Wrth ffyddlawn arcddiffyn yr eiddo Ap Iwan aberthwyd i'w nwyd; Erioed ni ddaearwyd ei hoffach, Mwy addfwyn a gwrol na Llwyd. Ap Iwan y cyfaill ffyddlonaf Yn gynnar ddisgynnodd i'r bedd; Yn anterth ei fywyd a'i lwyddiant Tra iechyd yn gwrido ei wedd; Portland, Oregon, Ebrill, 1910. Meddiannodd rinweddau ei riaint, Dysgedig a doeth oedd efe; Fe goliodd y Wladfa arweinydd, Ac anhawdd fydd llenwi ei le. Am golli un garem mor anwyl Fe wylwn a'n llygaid yn lli, Tra'r erys y pruddaidd amgylchiad Yn dywyll a dyrus i ni. Bydd enw Ap lwan yn anwyl 0 herwydd ei yni a'i aidd, Bugeiliaid Cymhyfryd am oesau A'i seiniant wrth wylio eu praidd. Tynghedaf fynyddoedd yr Andes 1 wylio yn dyner ei fedd; Gorffwysed ei lwch cysegredig! A huned yn da.wel mewn hedd; Y nefoedd a noddo 'i anwyliaid Ar wasgar yn agos a phell, Nes cwrddwn ar ddelw ein Prynwr Yn mro y Baradwys sydd well. Mawddwy.