Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 805. Y * Çronicl. MAI, 1910. Uffern. (O " Emmanuel " Hh-aethog). " Ar hynny, dadblygasant faner ddu Cwrthryfel yn awelon awyr Duw : Ac felly cyd-gwympasant i'r un pwll O golledigaeth—dan dragwyddol farn A melldith gyfiawn damnedigaeth dost, A dyma'r pryd ennynwyd fflamau tân Gehena gyntaf—ie, dyna'r pryd Y crewyd Uffern : a'i chreawdwr hi Oedd Satan, ac efe a'i teimlai o'i fewn ; Ac felly hefyd teimlai'r lleill 'run modd— Pob un yn cludo'i Uffern ynddo'i hun, Pob un yn Uffern danllyd drwyddo oll— Yn Uffern o drueni, ing, a gwae, Gelyniaeth, a chynddaredd, melldith, gwŷn,^ A llid a malais, a chenfigen cas Yn llosgi, 'n ysu, drwyddynt yn ddibaid ! Hunan-gondemniad ac euogrwydd llym Yn porthi ac yn chwythu'r tan o hyd— Y nwyddau a'r elfennau erchyll hyn A gyfansoddent hanfod uffern dan. Pa fynwes bynnag wnelont hwy yn nyth, Ai'n nghalon angel, ynte calon dyn, Mae hanfod Uffern ynddi—Uffern yw ; Ac nid oes Uffern lle ni byddant hwy." [Cyf. LXX.