Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 804. Y * Çronicl EBRILL, 1910. YR AFONlG. Gan KlNGSLEY, allan o Water Babies. Clir ac oer, clir ac oer, Chwarddaf ar y rhyd, yng ngoleu'r lloer ; Oer a chlir, oer a chlir, 'Sgleiriaf ar raian a gored hir ; O dan y graig, lle'r fronfraith gân Ger mur y llan a'r eiddew màn. Pur dinam, i'r pur dinam, Chwareu â mi, 'molch ynof fì, blentyn a mam. Du a llaith, du a llaith, Wrth ddinas fyglyd ar fy nhaith ; Llaith a du, llaith a du, Ger cei a ffos—cwterydd lu ; Duach a duach wyf, bellach yr af Myned yn futrach wrth gasglu a wnaf. Pwy gyda phechod faidd gerdded cam ? Gochel di fi, ffo rhagof fi, blentyn a mam. Cryf a rhydd, cryf a rhydd, Egyr llifddorau—i'r mor af ryw ddydd ; Rhydd a chryf, rhydd a chryf, Puraf fy nglanau wrth deithio'n hyf ; Af atydywod euraidd, hyd i draeth y lli, Hyd llanw grisial draw a'm disgwyl i ; Pan y collaf f' hunan yn yr eigion glas, Byddaf fel pechadur gadd faddeuol ras ; Pur dinam, i'r pur dinam Chwareu a mi, 'molch ynof fi, blentyn a mam. (Cyf.) Ke!NION. [Cyf. LXX.