Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 802. CHWEFROR, 1910. [Cyf. LXX. Y PORTtl NEFOL. I. Tra'n sefyll o fewn y fynwent, Ger twmpath oedd newydd wyrdd, Lle yr hunai un anwyl, anwyl, Fu'n cyd-rodio'r gwynion ffyrdd, Fe wylais am wyneb a gerais, A ddiangodd uwchlaw pob clwy',— Am y peraidd lais seraphaidd, Yn y byd ni chlywaf mwy. II. Fe'm llethwyd yn lân gan fy ngofìd, Nes cysgais gerllaw y bedd, Ac fe dybiais fod llais yn fy ymyl, Fel cenad o Ddinas Hedd ;— " Taw'th gri ! Draw i'r pyrth tragwyddol " Mae'r un gollaist mewn gloywach fyd, " Ac yno mewn gwisgoedd gwynion, " Yn dy ddisgwyl mae o hyd ! " III Fe allai mai dim ond breuddwyd Oedd y llais ddaeth i'm clyw mor glir, Ond mi wn fod y geiriau melus O'r Gwynfyd yn berffaith wir : 'Rwy'n aros yr alwad olaf, Pan gaf uno a'r dedwydd lu, Canys gwn bydd yr un a gollais, Yn y porth yn fy nisgwyl fry ! Bethesda,Arfon. {Efel.) GLANCERI.