Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Çronicl Rhif. 8oi. IONAWR, 1910. [Cyf. LXX. 44 YR HEN GYrlOEPPWR." 00 Bu'm flwyddi yn yr anial maith, Ie'r anial maith ! Ces gysur lawer ar y daith, Ac ambell brofiad trist. Ond gwynfyd penna' 'mywyd fu Cyhoeddi 'n glir ymhlith y llu Ym Mynydd Seion enwau cu Cenhadon íesu Grist. Cyhoeddais Iawer angladd prudd, Ie, angladd prudd ! A'r dagrau'n treiglo ar fy ngrudd Wrth ddweyd yr enw mâd. Meddyliwn am y ryfedd awr, Y byddwn innau'n gado'r llawr, I sefyìl ger y frawdle fawr, Fel hen gyhoeddwr gwlad ! (11.) Mae llawer cenad pêr ei floedd, Ie, pêr ei floedd ! Gyhoeddwyd gennyf fi ar goedd, Yn awr mewn distaw fedd. Wel, hunwch gedyrn gewri Duw, Mae'r hen efengyl fawr yn fyw, Ac eraill draethant yn fy nghlyw Yn felus am ei gwledd. (IV.) Daw ambell gwyn o'r gongl belì, le, 'r gongl bell! Fod eisieu llais melusach, gwell, I glir gyhoeddi'r drefn, Mae'm hiraeth beìlach am y nef, Ac er fod bloesgni yn fy llef, Yng nghor y saint, fe'i collir ef, Daw'r swyn yn ol drachefn. Caehilon.