Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'HIF. 799- Y * Çronicl TACHWEDD, 1909. [Cyf. LXIX. Gypa'r HWyr. Mi welais ieuanc loer Yn pwyso ar frig y mynnydd Ddechreunos Hydref oer, AY llwydrew 'n dod i'r gweunydd ; Cwynai dyllhuan yn y cwm O golli'r dydd, mewn trallod trwm. 'Roedd ambell seren dlos Yn dod i 'spio'n gynnil Ar ddaear yn y nos, Pan ydoedd haul ar encil ; Daeth llewyrch gwylaidd dros y Hyn Ymwythiai 'nghesail hen y bryn. Ymlithrai cwmwl rhydd Rhwn lloer a seren ofnus, Ar bererindod prudd, A'r olwg arno'n wgus; Daeth arian ar ei ymyl du, OY ieuanc loer a r seren fry. Jlwst, 1909. Penar.