Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 797. Y * Çronicl MEDI, 1909. [Cyf. LXIX. Y Cyfarfop Gweppi. O, Gwrdd Gweddi cysegredig, Gwisg ei enw dlysni'r wawr ; Ynddo cwrdda'r galon ysig, A gwellhad y Meddyg Mawr. Gweddi'r deigryn a'r ochenaid Gwyd o'i fewn yn daerni byw ; Yn ei lewyrch ffyddiog enaid Genfydd wên faddeuol Duw. II. Dringo Pisgah Ffydd a Gobaith, Drwyddo wna y Saint heb ri' ; I gael gwel'd eu hetifeddiaeth Oddi draw dros frig y lli. Tyrr gweddiau ynddo'n foliant, Yn orfoledd a mawrhad, Pan yn profi blas maddeuant Ar y daith i dy eu Tad. III. Hen ystordy'r cariad Dwyfol, I dylodion ydyw ef, Lle ca'r enaid ddyfroedd bywiol A "chuddiedig fannau'r " nef. Ac fel bydd y wawr yn gloywi,— Gwawrddydd wen Efengyl ddrud,- Gwelir y Cyfarfod Gweddi Tua'r nef yn swyno'r byd. Llanhrynmair. Atha.