Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 796. Y * Çronicl AWST, 1909. [Cyf. LXIX. Yr HeN WeiNipog. I. Bugeilio deadelloedd Duw Y bu am dymor hir ; Mewn bro fynyddig arw, bell Bu'n teithio dros y Gwir. Sawl milltir gerddodd, Duw a ŵyr— Fesurodd ef mo'r daith, Heb wybod, rhodiai'r. llwybrau blin A'i galon yn ei waith. II. Sawl modrwy briodasol dlôs Bu'r hen weinidog mad, Yn gosod arni fendith fawr Yng nghapel bach y wlad ? A pha sawl gwaith y bu efe Ag adnod fawr a salm, Yn rhoi yng nghlwyfau gwerin gwlad A'i lais crynedig, falm. III. I werin seml, ceisio wnaeth Yn daer am hawl i fyw — Mae Hawer bwthyn heddyw'n well Am hen weinidog Duw. Am gyflog teg i weithiwr gwlad Dadleuodd ef yn dyn ; Pa sut y gallodd fod mor frwd A'i gyflog ef mor brin ! IV. Bu farw'r hen weinidog hoff Gwobrwyodd Duw ei was, A rhodd ei braidd uwchben ei fedd Ddiaddurn garreg las. Un syml yn ei fywyd oedd A syml yw ei fedd ; Un uchel ei amcanion fu Ac uchel yw ei sedd. COLHAENI.