Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 795. GORFFENNAF, 1909. [Cyf. LXIX. Y FyTHOL GpOES. 1. Ai pydru mae y croesbren Ar fynydd Calfari ? Ai rhydu mae yr hoelion Fu'n nghnawd fy Ngheidwad i ? A sylla ser y Dwyrain O lasliw'r nen mewn hedd, A'r Bywyd mawr yn gorwedd Yn dawel yn y bedd ? II. Ai ofer, Iesu anwyl, Fu gwaedu pen y bryn ? Ai ofer gwaed dy galon I wneyd y du yn wyn ? Na, na, mae'r Groes yn gwreiddio Yn serch dy galon friw, A'i chysgod fel y nefoedd Dros wyneb daear Duw. III. O, Iesu fendigedig, Waredwr dynolryw, Mi welaf yn dy farw Y byd o hyd yn byw. Ti ddrylliaist byrth marwolaeth Yn chwilfriw yn yr ardd, Ti droaist groes y felldith Yn " bren y bywyd " hardd. Bethesda. Jacob Parry.