Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 794. MEHEFIN, 1909. [Cyf. LXIX. PUW BETHEL (" Myfi yw Duw Bethel, lle yr eneiniaist y golofn," &c.—Gen. xxxi. 13.) Tydi, O! Dduw, arweiniaist gynt, Dy seintiau oll i'r net ; Ac iddynt buost yn mhob ing Yn dŵr a tharian gref. Pan ydoedd Jacob ar drist daith O'i wlad i Haran bell, Rhoist iddo gipdrem hyfryd ar Ogoniant gwlad oedd well. Trwy weledigaeth ryfedd iawn,— Yr ysgol oedd a'i phen, Tra'n sefylí ar y ddaear hon, Yn cyrhaedd fry i'r nen. Ar hyd-ddi gwelai engyl glân,— Ardderchog deulu'r mawl, Yn esgyn ac yn disgyn fel Yng nghanol môr o wawl. 0 blith y llu fe glywai ef Dy lais, O! Dduw dilyth, Yn dweyd, " Mi fyddaf gyda Ûn, Ac ni'th adawaf bytih." Addewaist iddo fod yn nawdd, A nertih drwy'i oes o hyd ; A'i ddwyn yn ol, a gwneud ei had Yn fendith i'r holl fyd. Aeth Luz yn Bethel yn y fan, Tra gweniai'r ^ser uwch ben ; Ofnadwy oedd, fel tŷ i Dduw, A phorth i'r nefoedd wen. Beihel, Arfon. A'r garreg fuasai dan ei ben Dros nos, gyfododd ef, Yn golofn, a'i heneinio wnaeth Yn allor i Dduw'r nef. Ac yno yr addunodd ef I Dduw adduned fawr, I'w chadw byth mewn parchus gôf Tra'n rhodio daear lawr. Byth wedi hyn da coíìai ef Y gysegredig fan, * A'i gysur peninaf ydoedd fod Duw Bethel iddo'n rhan. Tydi, O! Dduw, barhai o hyd Yn ífyddloo i'r holl saint, Er colli'u hedd, trwy golli'u ífordd, Ni chollant byth eu braint Trwy holl droadau'u dyrus daith. Tywysi hwynt a'th law ; Cânt fwyid a dillad tra'n y byd, A chartre'n Nghanaan draw. Duw Bethel, drosom ninnau'n awr O^ taena'th aden glyd; Cani's yna diogelwch gawn Ynghanol drygau'r byd. Pe caem fendithion penna'r llawr, Heb dorr tra fyddom byw, Anfeidrol fwy na'r oll fydd cael Duw Bethel ini'n Dduw. D. Griffith.