Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 793. MAI, 1909. [Cyf. LXIX Ffypplonpeb A CtìAN. (i.) Aderyn glasddu'i bluen Ar gainc o irlas brèn, A ganai bore heddyw Hi ddeunod uwch fy mhen. Daeth dros y geirwon donnau Ar ol y tywydd braf; Nid edwyn ef mo Gymru, Ond yn ei dillad haf. (ü.) A mi yn allfro unig Mewn ardal dirion dlôs, Mi glywais eos glwyfus Yn canu yn y nôs.— Yr oedd yr hwyr yn dawel A'r awel bêr yn fwyn A thesni swrth Mehefin Yn gorwedd ar bob llwyn. (ìü.) Ryw hwyrnos lem o Dachwedd Fe safai brongoch tlws, Gan ganu yn yr eira Ar riniog oer fy nrws. Amhersain ydoedd nodau Y cathlwr bychan cu, Ond gwyn fo'i fyd am ganu— A'r barug yn ei blu î (iv.) Ffyddlondeb yn y galon Sy'n cadw'i gwaed yn lân, Lle bo efe yn nythu— Fan honno mae y gân. Efe sy'n cadw'n gyfain Delynau'r nef a'r byd ; Pe collid hwn, pwy ganai ?— A'i dyn a Duw yn fud. RHYS J. HUWS.