Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y * Çronicl Rhif. 792. EBRILL, 1909. [Cyf. LXVIX. plaNt cymru. (Cyfarchiad Eisteddfod y Plant, Bethesda, iço8.) Plant bach Cymru, cenwch eich cân— Cân y niwl, a'r haul, a'r enfys ; Blant bach Cymru, rhodiwch yn lân, Gan wella llwybrau yr anial dyrys. Blant bach Cymru, cerwch yr iaith, Iaith Dewi Sant, a iaith Llywelyn ; Blant bach Cymru, ewch at eich gwaith, Ar grib y mynydd, yng nghol y dyffryn. Blant bach Cymru, cofiwch o hyd Englyn Eisteddfod ac emyn Seion ; Blant bach Cymru, ewch drwy y byd, A Chymru gyfan yn eich calon. Elfed.